Uchelgais ‘Guide Dogs’ yw dyfodol ble mae bob person sy’n colli ei olwg yn gallu byw bywyd yn ôl ei ddewis.
Mae ein maniffesto ar gyfer etholiad Senedd 2026 yn gosod camau gweithredu y gall y Llywodraeth Cymru nesaf eu rhoi ar waith i wella bywydau pobl sy’n colli eu golwg.
Diweddaru canllawiau a safonau i sicrhau bod ein strydoedd yn ddiogel ac o fewn cyrraedd pawb.
Amlygu’r ffaith bod e-sgwteri preifat yn anghyfreithlon ar lonydd cyhoeddus.
Sicrhau bod barn ac anghenion pobl sydd ag amhariad ar y golwg yn cael eu hystyried fel rhan o strategaeth Teithio i Bawb: gwella mynediad a chynhwysiant ar draws cludiant yng Nghymru.
Atgyfnerthu’r gyfraith i rwystro perchnogion cŵn tywys rhag cael eu troi i ffwrdd gan dacsis, cerbydau i’w hurio’n breifat, busnesau a gwasanaethau, a sicrhau bod staff yn gwybod hawliau cyfreithiol perchnogion cŵn tywys.
Sicrhau bod plant a phobl ifainc sydd ag amhariad ar y golwg yn cael cefnogaeth addysgol arbenigol yn yr iaith o’u dewis nhw pan fydd ei hangen arnyn nhw.
Mae parcio ar balmentydd yn annheg ac anniogel. Dywedodd 81% o bobl sy’n colli eu golwg ei bod hi’n bwysig lleihau annibendod ar y stryd a rhwystrau ar y palmentydd er mwyn gwella ansawdd eu bywyd. Er hynny, yng Nghymru mae’n digwydd bob dydd oherwydd nad oes gan y cynghorau lleol y pŵerau sydd eu hangen arnyn nhw i ddelio â’r broblem. Dywedodd pedwar o bob pump o bobl ddall a phobl ag amhariad ar y golwg bod parcio ar y palmant yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gerdded ar y palmant o leiaf unwaith yr wythnos. Mae bron i 95% o bobl sy’n colli eu golwg yn cael eu gorfodi i gerdded yn y lôn oherwydd bod cerbydau yn eu rhwystro ar y palmant, gan wneud teithiau beunyddiol, syml, yn beryglus neu fe allent fod yn amhosibl.
Mae gan gynghorau lleol yr Alban a Llundain rym yn barod i fynd i’r afael â pharcio ar y palmant. Yn gynnar yn 2026 datganodd Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynlluniau newydd yn Lloegr i fynd i’r afael â pharcio ar y palmant mewn ffordd beryglus. Bydd hyn yn meddwl mai Cymru yw’r unig wlad ym Mhrydain Fawr sydd heb rym i fynd i’r afael â pharcio peryglus ar y palmant.
Mae cerbydau wedi’u parcio ar y palmant yn rhwystr rydw i’n ei wynebu’n ddyddiol, sy’n aml yn achosi ofn a phryder y bydd yn rhaid i mi gamu i’r lôn er mwyn mynd heibio iddyn nhw. Byddai newid yn y gyfraith yn gwneud pethau bob dydd fel siopa, dal y bws, bod yn rhan o’r gymuned neu unrhyw beth arall yn llai o straen.
Mae troedffyrdd clir sydd â nodweddion digyfnewid megis palmant botymog yn hanfodol ar gyfer pobl sy’n colli eu golwg i fynd o gwmpas y lle yn ddiogel. Fodd bynnag, mae ein strydoedd yn mynd yn fwy anodd eu defnyddio wrth i gynghorau lleol roi gwahanol ffyrdd o ddylunio strydoedd ar waith, gan gynnwys:
Os gofynnwch chi i unrhyw gerddwr ydyn nhw’n gwybod ble y byddan nhw’n sefyll ar ôl camu oddi ar y bws, basen nhw’n dweud palmant. Fasan nhw ddim yn disgwyl camu i mewn i lwybr beicio.

Rydyn ni’n ymgyrchu i sicrhau bod mannau cyhoeddus yn ddiogel i bobl sy’n colli eu golwg.
Mae ein defnyddwyr gwasanaeth yn sôn yn rheolaidd am broblemau ag e-sgwteri cyflym, anodd eu clywed, yn cael eu reidio mewn ffordd anghymdeithasol ar y palmentydd, ac e-feiciau ar droedffyrdd a lleoliadau cerddwyr yn unig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo teithio cynhwysol a gwella hygyrchedd, sydd wedi’u hadlewyrchu mewn pump egwyddor allweddol er mwyn trawsffurfio rhwydweithiau cludiant. Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau bod pobl yn teimlo’n ddiogel a bod croeso iddynt, gan wella hygyrchedd, cynnwys pobl anabl mewn penderfyniadau dylunio, a gosod newid parhaol ar bob modd o gludiant.
Bydd gweithwyr cludiant yn gweithio yn ôl safonau newydd a bydd arweiniad ymarferol yn cael ei ddatblygu â phobl anabl, tra bydd staff sy’n wynebu cwsmeriaid ar draws gwasanaethau trenau, bysiau a gwasanaethau eraill yn ymgymryd â hyfforddiant rheolaidd ar broblemau cydraddoldeb gan gynnwys ymwybyddiaeth o anabledd.
_and_Mayne_022.jpg?format=webp&width=3840&quality=75)
Nid anifeiliaid anwes nac atodion yw cŵn tywys. Ynghyd â mathau eraill o gŵn cymorth, mae cŵn tywys yn hanfodol i lawer o bobl fyw eu bywydau’n annibynnol. Fodd bynnag, mae bron i 90% o berchnogion cŵn tywys wedi cael eu gwrthod rhag cael mynediad at fusnes neu wasanaeth, megis siopau neu dacsis. Gall yr ofn hwn o gael eu gwrthod rwystro pobl rhag mynd o gwmpas yn hyderus.
Er bod gwrthod ci tywys sy’n gweithio neu gi cymorth arall yn debygol o fod yn anghyfreithlon yn y rhan fwyaf o achosion, y gwir amdani yw ei bod yn eithriadol o anodd i berchnogion cŵn tywys weithredu pan fydd gwrthodiadau yn digwydd.
Mae ‘Guide Dogs Cymru’ yn croesawu cynyrchiadau Llywodraeth Cymru o ffilmiau arfer da ar gyfer gyrwyr tacsi a cherbydau hurio’n breifat wrth gynnig gwasanaeth i bobl ag amhariad ar y golwg. Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei rannu ag awdurdodau lleol ond ni fydd yn orfodol.
Rydyn ni’n ymgyrchu i fynd i’r afael â gwrthod pobl rhag cael mynediad
Mae plant a phobl ifainc sydd ag amhariad ar y golwg yn wynebu heriau unigryw yn eu haddysg a’u datblygiad cynnar, sy’n eu rhoi dan anfantais o’u cymharu â’u cyfoedion sy’n gallu gweld. Mae sicrhau bod plant a phobl ifainc yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth arbenigol safonol sydd ei hangen arnynt, pan fydd ei hangen arnynt, yn hanfodol i’w galluogi i gyrraedd eu llawn botensial a byw bywyd yn annibynnol wrth iddynt fynd yn hŷn.
Fodd bynnag, mae gweithwyr arbenigol sydd heb yr adnoddau na’r cyllid digonol yn golygu bod llawer o deuluoedd yn wynebu lotri côd post wrth geisio cael cefnogaeth gan rai awdurdodau lleol sydd ddim yn cyflogi eu harbenigwyr cymhwyso eu hunain. Hefyd mae plant a phobl ifainc mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n defnyddio ‘braille’, yn wynebu anfanteision ychwanegol gan nad yw’r arbenigwyr sy’n eu dysgu a’u cefnogi yn rhugl bob amser mewn darllen ac ysgrifennu ‘braille’ Cymraeg.
Hoffech chi dderbyn diweddariadau am ein hymgyrchoedd a’n cefnogi o’ch cartref?